Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 14 Mehefin 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
 


145(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Weinidog yr Economi

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod cwmni parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau economaidd yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi ystadegau ONS mis Mehefin sy'n dangos patrwm o ddirywiad yng nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ymgyrch Warm this Winter

(60 munud)

NDM8275 Hefin David (Caerffili)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd iddynt.

2. Yn nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai mwyaf bregus.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod angen gwneud mwy.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni, a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod.  

Cyd-gyflwynwyr

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cefnogwyr

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Rhianon Passmore (Islwyn)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

(60 munud)

NDM8292 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2023.

Sylwch: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2023.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghenion dysgu ychwanegol

(60 munud)

NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;

b) bod oedi a heriau wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac

c) bod ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o weithredu diwygiadau ADY;

b) cymryd camau brys i sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth yn gynt; ac

c) darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 

'Methiant i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod

Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.

ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.

cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.

Diwygio anghenion dysgu ychwanegol - Estyn

Ymchwil gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Mewnosoder ar ddiwedd is-bwynt 1(b):

gyda phrinder penodol o ddarpariaeth Gymraeg.

Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)

Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM8289 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Anghydraddoldebau canser yng Nghymru

</AI10>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Mehefin 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>